SL(5)247 – Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ceffylau 

Cefndir a Diben

Mae’r Cod Ymarfer hwn yn cael ei ddyroddi o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (y “Ddeddf”).  Mae’r Cod Ymarfer hwn yn berthnasol i Gymru yn unig, a chaiff ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru. Mae’n dod i rym ar 12 Tachwedd 2018.  Mae’n berthnasol i bob ceffyl y mae unigolyn yn gyfrifol amdano.

Mae'n disodli'r Cod Ymarfer presennol ar gyfer Lles Ceffylau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2008.

Bu Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Cod presennol ac yn ymgynghori arno yn ystod haf 2017.

Mae Atodiad 2 i'r Cod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol.  Pan ddyfynnir o ddeddfwriaeth a wnaed gan ddefnyddio'r arddull drafftio traddodiadol rhyw benodol (rhagenwau gwrywaidd), mae'n gwneud hynny'n fanwl gywir, ond dim ond ar gyfer cywirdeb llym.  Yn yr un modd, nid yw deddfwriaeth a wnaed yn Saesneg yn unig yn cael ei chyfieithu i'r Gymraeg.

Gweithdrefn

Rhoddwyd y pŵer i wneud Codau o'r math yma i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 tra oedd yn un corff, ac ni phennwyd unrhyw weithdrefn.  Ar ôl creu Llywodraeth Cymru fel endid cyfreithiol ar wahân o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ('Deddf 2006') trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru.  O dan y darpariaethau trosiannol yn Atodlen 11 i Deddf 2006, daeth codau yn ddarostyngedig i'r un weithdrefn ag a oedd eisoes yn gymwys i godau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr.

Rhaid gosod drafft o'r cod gerbron y Cynulliad. Os bydd y Cynulliad, o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw adeg pan fo'r Cynulliad yn cael ei ddiddymu neu mewn cyfnod o doriad am fwy na 4 diwrnod) ar ôl gosod y drafft yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi'r cod.

Os na wneir penderfyniad o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi'r cod (ar ffurf drafft) a daw'r cod i rym yn unol â'i ddarpariaethau.  Y dyddiad arfaethedig yn yr achos hwn yw 12 Tachwedd 2018.

Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Mabwysiadwyd Rheoliad y Comisiwn 2015/262 sy'n gosod y rheolau o ran y dulliau o adnabod equidae ar 11 Medi 2014 a daeth i rym trwy'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2016. Mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob ceffyl yng Nghymru gael pasbort.

Mae'r Cod hwn yn adlewyrchu gofynion y Rheoliad hwnnw, a fydd yn gyfraith yr UE a ddargedwir yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.  Bydd y fframwaith deddfwriaethol hwnnw yn parhau mewn grym nes iddo gael ei ddiwygio.  Mae Llywodraeth y DU wedi enwi lles ac iechyd anifeiliaid ac olrhain anifeiliaid yn feysydd lle bydd angen fframwaith polisi cyffredin ar draws y DU pan fydd y DU yn ymadael â'r UE. 

Mae'n debygol y bydd y Rheoliad yn parhau mewn grym, yn enwedig mewn perthynas â cheffylau rasio neu geffylau sioe sy'n cael eu cludo'n rheolaidd rhwng y DU a gweddill yr UE.  Bydd hefyd yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer unrhyw geffylau sy’n cael eu hallforio i'r UE.  Mater i'r pedair llywodraeth yn y DU fydd penderfynu sut, ac i ba raddau, y bydd y materion hyn yn parhau'n berthnasol i geffylau na fwriedir iddynt adael y DU.  Bydd angen adolygu'r Cod hwn wrth i'r polisi a'r cyd-destun deddfwriaethol ddatblygu.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Awst 2018